Rhoi yn awr
Cartref » Yr hyn a wnawn » Canolfan y wasg

Plant ysgol o Gymru i arwain Awr Ddaear WWF

20 Mawrth 2012

 Ysgol yng Nghymru fydd yn dechrau dathliadau’r Deyrnas Unedig ar gyfer Awr Ddaear WWF ar 31ain Mawrth am 8.30pm!

Plant Ysgol Evan James

Ysgol Evan James ym Mhontypridd fydd yr adeilad cyntaf i ddiffodd y goleuadau ar gyfer Awr Ddaear WWF i ddangos eu bod eisiau creu dyfodol disgleiriach i’r blaned. Bydd adeiladau a strwythurau amlwg fel Castell Caerdydd a Dau Dŷ’r Senedd yn ei dilyn.

Rhoddodd yr ysgol gynradd gynnig ar gystadleuaeth a drefnwyd gan WWF-UK a Phartner Swyddogol Awr y Ddaear 2012 MORE TH>N, oedd yn cynnig cyfle i gymunedau arwain y gwaith o ddiffodd goleuadau yn y Deyrnas Unedig ac ennill grant o £1,000 tuag at drefnu digwyddiad arbennig ar y noson.

Bydd yr ysgol fuddugol yn trefnu taith gerdded yng ngolau canhwyllau trwy Bontypridd, gan wahodd ysgolion eraill a busnesau i ymuno â nhw i ddathlu Awr Ddaear WWF ar 31ain Mawrth. Maen nhw hefyd wedi bod yn hyrwyddo gweithgareddau ecogyfeillgar yn gyson, o ailwampio iard yr ysgol gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu fel cewyll pren a theiars, i adeiladu tŷ gwydr bach gan ailddefnyddio poteli plastig a defnyddio gwastraff bwyd i wneud eu compost eu hunain.

Dywedodd Moira Greany, pennaeth Ysgol Evan James:

“Mae ennill cystadleuaeth gymunedol Awr Ddaear WWF yn wych. Rydyn ni’n wirioneddol falch o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud bob dydd i addysgu plant am bwysigrwydd gofalu am ein planed, a gobeithio y byddwn ni’n gallu ysbrydoli eraill yn ein cymuned leol a ledled y Deyrnas Unedig hefyd. Rydyn ni i gyd wedi cyffroi’n lân am 31ain Mawrth ac yn edrych ymlaen at ddod â phawb yn y dref ynghyd i ddathlu gyda thaith gerdded yng ngolau canhwyllau.”

Dywedodd Pennaeth WWF Cymru, Anne Meikle:

“Mae’n wych bod ymgais cystal o Gymru wedi ennill y gystadleuaeth hon, a gynhaliwyd trwy’r Deyrnas Unedig gyfan. Mae brwdfrydedd a chreadigrwydd Ysgol Evan James wedi gwneud argraff fawr iawn arnon ni. Nod Awr Ddaear WWF yw dod â phobl ynghyd i ddathlu ein byd gwych, cymunedau lleol a’u hangerdd dros ddyfodol disgleiriach, felly Ysgol Evan James yw’r gymuned berffaith i arwain y gwaith o ddiffodd goleuadau.”


blog comments powered by Disqus