Rhoi yn awr
Cartref » Yr hyn a wnawn » Canolfan y wasg

Cymru’n diffodd ar gyfer Awr Ddaear WWF heno

31 Mawrth 2012

Bydd grwpiau cymunedol ledled Cymru’n dathlu Awr Ddaear WWF heno, wrth i adeiladau a strwythurau amlwg yng Nghymru ymuno ag adeiladau enwog o gwmpas y byd o Dŷ Opera Sydney i Dŵr Sears yn Chicago i ddiffodd eu goleuadau.

Mae safleoedd sy’n ymuno ag Awr y Ddaear 2012 yn cynnwys:

· Safleoedd hanesyddol gan gynnwys Castell Caernarfon ac Abaty Tyndyrn

· Adeiladau cyhoeddus fel y Senedd thŵr y cloc yng Nghasnewydd

· Busnesau, o Dow Corning yn y Barri i Ikea ym Mae Caerdydd

· Lleoliadau adloniant gan gynnwys Hafren yn y Drenewydd a gwesty’r Hilton yng Nghasnewydd

Mae 29 o’r 60 Aelod Cynulliad wedi llofnodi adduned Awr y Ddaear a bydd Ysgol Evan James ym Mhontypridd yn arwain y gwaith o ddiffodd goleuadau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Awr y Ddaear cyn taith gerdded yng ngolau canhwyllau yn y dref.

Dywedodd Moira Greany, pennaeth Ysgol Evan James ym Mhontypridd:

“Mae ennill cystadleuaeth gymunedol Awr Ddaear WWF yn wych. Rydyn ni’n wirioneddol falch o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud bob dydd i addysgu plant am bwysigrwydd gofalu am ein planed, a gobeithio y byddwn ni’n gallu ysbrydoli eraill yn ein cymuned leol a ledled y Deyrnas Unedig hefyd.”

Dywedodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd John Griffiths:

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r heriau mae’r newid yn yr hinsawdd yn eu creu ac mae’n falch i gefnogi Awr y Ddaear. Caiff goleuadau eu diffodd ar lawer o safleoedd pwysig ledled ein hystâd ac rydym yn annog cyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud yr un peth.

“Rwy’n annog pobl ledled Cymru i ymuno â channoedd o filiynau o bobl o gwmpas y byd wrth ddiffodd goleuadau nad ydynt yn hanfodol am 8.30pm ar nos Sadwrn 31 Mawrth. Dyma’ch cyfle chi i wneud cyfraniad, waeth pa mor fach, i ddigwyddiad byd-eang sy’n tynnu sylw at bryderon am ddyfodol ein planed."

Ym Mangor bydd y goleuadau’n diffodd ar Brif Adeilad y Celfyddydau yn y brifysgol. Mae Aelodau o Gymdeithas Ddaearyddol Bangor wedi bod yn hyrwyddo Awr y Ddaear ar y campws ac ar Facebook.

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas Ddaearyddol Bangor, Chris Bibby:

"Rydyn ni’n teimlo fel cymdeithas ei bod yn hynod o bwysig i helpu i hyrwyddo a chymryd rhan weithredol ar fater cynaliadwyedd a diogelu ein byd."

Yn Victoria Gardens yng Nghastell-nedd, bydd Cynghrair Gymunedol F.A.N. (Friends and Neighbours) yn cael perfformiadau syrcas tân a chylch drymio.

Dywedodd Angela Funning, swyddog cyhoeddusrwydd Cynghrair Gymunedol F.A.N. yng Nghastell-nedd:

“Mae dod â’r gymuned ynghyd yn greiddiol i’r hyn mae ein grŵp yn ei wneud, ac rydyn ni’n teimlo y bydd Awr y Ddaear yn ffordd wych o hybu hyn, ac ar yr un pryd codi ymwybyddiaeth a dangos i bobl y GALLAN nhw wneud gwahaniaeth, waeth pa mor fach.”

Yn ogystal â diffodd y goleuadau am yr awr ei hun, bydd Canolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd yn dangos ffilmiau ar thema Awr y Ddaear yn ei sinema ac yn darparu bwydlen arbennig yn ei chaffi.

Dywedodd Claire Vaughan o Ganolfan Gelfyddydau Chapter:

“Rydyn ni’n awyddus i gymryd rhan yn Awr Ddaear WWF eleni eto gan ei bod yn boblogaidd gyda’n cwsmeriaid bob amser. Y penwythnos hwn rydyn ni’n defnyddio’r ryseitiau ecogyfeillgar a grëwyd ar gyfer Awr y Ddaear gan y cogydd o Gymru Bryn Williams a’u gweini nhw fel prydau arbennig yn ein bar caffi.”

Yng Ngheredigion, bydd Trawsnewid Llambed yn dathlu Awr y Ddaear yn Neuadd Victoria, Llanbedr Pont Steffan gyda dawns twmpath fawr.

Dywedodd Josie Smith, un o drefnwyr y digwyddiad:

“Bydd digwyddiad Awr y Ddaear yn Nhref Trawsnewid Llambed yn dathlu lansiad clwb cerdd misol, a fydd yn galluogi’r gymuned wledig hon i fwynhau cerddoriaeth wych a chwmni da’n lleol, ac felly arbed tanwydd, cryfhau’r gymuned, codi ymwybyddiaeth o fudiad Trefi Trawsnewid, cefnogi artistiaid lleol a chael llawer o hwyl."

Mae WWF – un o brif sefydliadau cadwraethol y byd – yn gobeithio y bydd cynifer o bobl ag sy’n bosibl ledled Cymru’n ymuno â’r digwyddiad, mewn lleoliad, mewn digwyddiad cymunedol neu yn eu cartrefi.

Dywedodd Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru:

“Mae’n wych bod adeiladau a strwythurau a phobl ledled Cymru ac o gwmpas y byd yn dangos cymaint o frwdfrydedd dros gymryd rhan eleni a dangos eu bod nhw’n malio am ein byd. Mae’n hawdd ymuno â’r dathliad byd-eang hwn, trwy gofrestru ar lein, rhannu’ch storïau a’ch lluniau gyda ni ar Facebook ac, wrth gwrs, diffodd eich goleuadau yn ystod yr awr ei hun, o 8:30pm ymlaen ar nos Sadwrn.”

I gofrestru ar gyfer Awr y Ddaear, ewch i wwf.org.uk/wales ac i ddilyn newyddion am Awr y Ddaear yng Nghymru ewch i facebook.com/wwfcymruwales