Cymunedau Cymru’n dathlu Awr Ddaear WWF
1 Ebrill 2012
Bu cymunedau ledled Cymru’n dathlu Awr Ddaear WWF neithiwr (nos Sadwrn, 31 Mawrth) gydag arlwy gwych o sioeau tân, teithiau cerdded yng ngolau canhwyllau, twmpathau dawns a chiniawau yng ngolau canhwyllau.
Plant o Ysgol Evan James, Pontypridd, a enillodd gystadleuaeth Awr Ddaear WWF, arweiniodd y gwaith o gyfrif i lawr i’r eiliad y tywyllwyd adeiladau a strwythurau amlwg a chymunedau ledled Cymru am awr o 8.30pm ymlaen. Ymunodd tua 200 o bobl â nhw mewn ymdaith yng ngolau canhwyllau trwy'r dre.
Roedd yr uchafbwyntiau eraill yn cynnwys perfformiad syrcas tân yn Victoria Gardens, Castell-nedd; bwydlen arbennig ar gyfer Awr y Ddaear a chinio yng ngolau canhwyllau yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd; yng Ngheredigion, trefnodd Trawsnewid Llambed dwmpath dawns mawr yn Llanbedr Pont Steffan ac yn y Drenewydd, Powys, mwynhaodd ymwelwyr ddigwyddiad yng ngolau canhwyllau yn Theatr Hafren.
Tywyllwyd adeiladau a strwythurau amlwg ledled Cymru gan gynnwys Tŵr Cloc Canolfan Ddinesig Casnewydd, y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, Adeilad y Senedd a, thrwy gymorth CADW, cestyll fel Caernarfon a Chydweli, Abaty Tyndyrn a Chastell Coch, ar gyfer Awr Ddaear WWF.
A gwnaeth llawer o fusnesau sy’n ystyriol o’r amgylchedd gofrestru a chwarae rhan yn Awr y Ddaear 2012, sef gwesty’r Hilton, Casnewydd, Dow Corning, IKEA Wales a Techniquest.
Hefyd tywyllwyd rhai o ryfeddodau mawr y byd, yn rhai naturiol a rhai o waith dyn, o Dŵr Eiffel, y Las Vegas Strip a’r Empire State Building, i Table Mountain, Mount Rushmore a Thŷ Opera Sydney.
Dywedodd Pennaeth WWF Cymru, Anne Meikle:
“Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghymru a gofrestrodd a diffoddodd eu goleuadau ar gyfer Awr y Ddaear 2012 ac a ddangosodd eu bod yn malio am ein byd.
“Mae Awr y Ddaear yn ffordd weladwy iawn o ddangos i wleidyddion, cymdogion a’r byd i gyd pa mor bwysig yw hi i ni i gyd edrych ar ôl ein planed.”
“Os nad ydych wedi cofrestru eisoes, mae amser i wneud hynny o hyd, gan fod eich enw’n dal i gyfrif. Ewch i wwf.org.uk/cymru.”
blog comments powered by Disqus

Newsletter sign-up
Sign-up to get the latest WWF news delivered straight to your in-box.
Like us on Facebook
Follow us on Twitter