Rhoi yn awr
Cartref » Yr hyn a wnawn » Canolfan y wasg

WWF: Rhaid i Lywodraeth Cymru ddatgelu’r ‘darlun llawn’ ar allyriadau carbon

24 Ebrill 2012

Mae’r sefydliad cadwraeth WWF Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu effaith lawn Cymru ar y newid yn yr hinsawdd, trwy gyhoeddi ffigyrau ar gyfer yr allyriadau carbon o nwyddau wedi’u mewnforio a brynir gan ddefnyddwyr yng Nghymru.

Heddiw (dydd Mercher 18 Ebrill) dangosodd adroddiad gan bwyllgor Ynni a Newid Hinsawdd Tŷ’r Cyffredin gynnydd o 20% yn allyriadau’r Deyrnas Unedig ‘ar sail defnyddio’.

Mae allyriadau carbon o nwyddau a fewnforir ac a ddefnyddir yn y Deyrnas Unedig yn codi’n gyflymach nag y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cwtogi ar CO2 yn y wlad hon.

Wrth ymateb i adroddiad y pwyllgor, dywedodd Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru:

“Allwn ni ddim cael sefyllfa lle rydyn ni’n cwtogi ar allyriadau yma yng Nghymru’n unig, gan anwybyddu’r nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu pwmpio allan dramor i wneud nwyddau i ddefnyddwyr yng Nghymru.”

“Cafodd hynny ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru yn 2010, pan gafwyd ymrwymiad y byddai ei Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd yn adrodd ar yr allyriadau ‘ar sail defnyddio’, yn ogystal ag allyriadau yng Nghymru. Eto i gyd yn 2012 rydyn ni’n dal i aros i weld y ffigyrau ar gyfer Cymru a manylion y ffordd y bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio i’w lleihau.

Dywedodd Keith Allott, pennaeth newid yn yr hinsawdd yn WWF-UK, fod gan y Deyrnas Unedig “gyfrifoldeb enfawr i ddangos arweinyddiaeth” ar y mater, gan ddadlau “nad yw’n gredadwy i’r Deyrnas Unedig honni ei bod yn gwneud cynnydd tuag at economi werdd, gynaliadwy” oni bai fod effeithiau allyriadau tiriogaeth y Deyrnas Unedig ac allyriadau defnyddio yn cael sylw gyda’i gilydd.

Ychwanegodd Anne Meikle: “Roedd cyflwyniad WWF i’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddilyn yr arweiniad a roddwyd gan Gymru a’r Alban wrth ymrwymo i gyhoeddi’r allyriadau hyn. Felly mae’n drueni bod Llywodraeth Cymru fel petai heb wneud dim i gyflawni ei haddewid. Os yw o ddifrif am greu economi werdd, rhaid i Lywodraeth Cymru ddatgelu’r darlun llawn am ein heffaith ar y newid yn yr hinsawdd.”


blog comments powered by Disqus