Rhoi yn awr
Cartref » Yr hyn a wnawn » Canolfan y wasg

Galw i gryfhau cyfraith Cymru wrth i adroddiad newydd ddangos difrod i'r Ddaear

15 Mai 2012

(Islwythwch y Living Planet Report 2012 yma)

A hurricane photographed in orbit above the Earth from the International Space Station

  • Mae adroddiad newydd yn dangos ein bod yn defnyddio 50% yn fwy o adnoddau naturiol nag y gall ein planed eu cynhyrchu'n gynaliadwy
  • Mae'r Deyrnas Unedig wedi codi i'r 27ain safle o ran defnyddio'n fyd-eang

Mae'r corff cadwraethol WWF Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau ei chyfraith cynaliadwyedd arfaethedig, gan fod yr 'archwiliad iechyd byd-eang' a gyhoeddir heddiw (15 Mai 2012) yn dangos y pwysau aruthrol rydym yn eu rhoi ar y byd naturiol.

Mae adroddiad The Living Planet Report 2012, a gyhoeddir heddiw gan WWF, yn dangos bod y ffordd yr ydym yn defnyddio mwy a mwy yn bygwth ein diogelwch a’n lles yn y dyfodol. Mae hefyd yn dangos y bu dirywiad mawr ym mioamrywiaeth y ddaear yn y degawdau diwethaf.

Mae’r lansiad yn digwydd ar yr un pryd ag ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Fil Datblygu Cynaliadwy. Mae WWF Cymru’n credu y gallai’r Bil wneud Cymru’n arweinydd byd-eang ar gynaliadwyedd, ond nad yw’r cynigion cyfredol yn ddigon i sicrhau’r hyn mae ei angen i wneud Cymru’n genedl gynaliadwy.

Cafodd yr adroddiad, a gynhyrchwyd ar y cyd gyda Chymdeithas Sŵolegol Llundain a’r Rhwydwaith Ôl Troed Byd-eang, ei lansio heddiw o'r Orsaf Ofod Ryngwladol gan Andre Kuipers, un o Lysgenhadon WWF a gofodwr, sy’n dod o’r Iseldiroedd.

O’i weithle gydag Asiantaeth Ofod Ewrop, dywedodd Kuipers:

“Dim ond un Ddaear sydd gennym. O’r fan hon gallaf weld ôl troed y ddynoliaeth, gan gynnwys tanau mewn coedwigoedd, llygredd aer ac erydiad – heriau sy’n cael eu hadlewyrchu yn y rhifyn hwn o’r Living Planet Report”

“Er bod yna bwysau anghynaliadwy ar y blaned, mae’r gallu gennym i achub ein cartref, nid yn unig er ein lles ni, ond er lles cenedlaethau i ddod.”

Mae canfyddiadau allweddol yr adroddiad yn cynnwys:
  • Rydym yn defnyddio 50% yn fwy o adnoddau naturiol nag y gall ein planed eu cynhyrchu'n gynaliadwy
  • Mae’r Fynegai Planed Fyw fyd-eang wedi dirywio hyd at 30 y cant ers 1970.
  • Mae'r Deyrnas Unedig wedi codi pedair safle o’r 31ain safle i'r 27ain safle yn rhestr y byd o ddefnyddiaeth yn yr adroddiad, sy’n cymharu’r Ôl Troed Ecolegol y pen i bob gwlad
  • Ar hyn o bryd mae’n cymryd 1.5 blwyddyn i’r Ddaear amsugno’r CO2 a gynhyrchir ac i atgynhyrchu’r adnoddau adnewyddadwy mae pobl yn eu defnyddio mewn blwyddyn
  • Mae 2.7 biliwn o bobl yn byw mewn mannau lle mae prinder dŵr difrifol am o leiaf un mis y flwyddyn
  • Ar hyn o bryd mae’r Ôl Troed Ecolegol y pen mewn gwlad ag incwm uchel fel Unol Daleithiau America chwe gwaith yn fwy na’r ôl troed y pen mewn gwlad incwm isel fel Indonesia
  • Y 10 gwlad sydd â’r Ôl Troed Ecolegol mwyaf y pen yw: Qatar, Kuwait, yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Denmarc, Unol Daleithiau America, Gwlad Belg, Awstralia, Canada, yr Iseldiroedd ac Iwerddon.
Dywedodd Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru:

“Yng Nghymru dydyn ni ddim yn gweld llawer o’r effaith y mae ein bywydau beunyddiol yn ei chael ar yr amgylchedd eto, ond allwn ni ddim anwybyddu’r difrod sy’n cael ei wneud o gwmpas y byd oherwydd prynwriaeth gwledydd cyfoethog. Mae penderfyniadau fel pa fwyd rydym yn ei fwyta, sut yr ydym yn cynhyrchu ynni neu’n cael pren a chynhyrchion pren i gyd yn effeithio ar bobl a bywyd gwyllt o gwmpas y byd. Rydym bellach mewn man peryglus iawn. Os byddwn yn parhau i ddefnyddio adnoddau’r blaned yn gynt nag y gall ei hatgynhyrchu, cyn bo hir byddwn wedi ecsbloetio pob cornel o’r Ddaear. Nid yw’n rhy hwyr i wrthdroi’r duedd hon, ond rhaid i ni fynd i’r afael â hi gyda’r un math o frys ag wrth fynd i’r afael â’r argyfwng ariannol byd-eang.

“Bil Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yw ein cyfle mawr i chwarae ein rhan yn y gwaith o fynd i’r afael â’r problemau byd-eang mawr hyn, ond mae’r adroddiad hwn yn ein hatgoffa nad yw’r cynigion cyfredol yn ddigon. Rhaid i’r Bil leihau effaith Cymru mewn gwledydd tramor a gosod dyletswydd gryfach ar weinidogion Llywodraeth Cymru ei hun, er mwyn i ni wneud ein rhan yn y gwaith o adael planed iach i’n plant.”


DIWEDD


blog comments powered by Disqus