Rhoi yn awr
Cartref » Yr hyn a wnawn » Canolfan y wasg

Uwchgynhadledd y Ddaear Rio: Rhaid i Gymru ddeffro i fygythiadau byd-eang

20 Mehefin 2012

Ar ddechrau Uwchgynhadledd y Ddaear Rio+20 ym Mrasil, mae WWF Cymru’n dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ‘wrando, dysgu a chyflenwi’ mewn ymateb i’r materion byd-eang anferth sy’n cael eu trafod.

Mae adroddiad WWF ‘Living Planet 2012’ yn dangos ein bod eisoes yn gorddefnyddio adnoddau ein planed a bod angen i wledydd weithredu yn awr i leihau peryglon ôl troed ecolegol sy’n codi o hyd.
Mae’r galw byd-eang am fwyd, dŵr ac ynni’n dal i godi oherwydd twf yn y boblogaeth a lefelau cynyddol o ddefnyddiaeth gan wledydd fel Cymru.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar Fil Datblygu Cynaliadwy ac mae Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, John Griffiths, wedi mynd i Rio ynghyd â Chomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru, Peter Davies.

Meddai Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru:

“Dylai Rio+20 ein hatgoffa na allwn fforddio anwybyddu’r problemau hyn yng Nghymru. Rydyn ni’n dibynnu ar adnoddau naturiol y byd i ddiwallu ein hanghenion – o’r bwyd mewn prydau ysgol i’r ynni a ddefnyddiwn i wresogi ein cartrefi. Rydyn ni’n defnyddio’r adnoddau yn llawer cynt nag y gellir eu hailgyflenwi – ac mae hyn yn codi cwestiynau difrifol, fel beth fydd hyn yn ei olygu ar gyfer prisiau ynni neu effaith y newid yn yr hinsawdd ar ein hiechyd.”

“Rydyn ni’n falch bod y Gweinidog yn Rio ond pan ddaw’n ôl rhaid iddo sicrhau newid a helpu pobl gyffredin yng Nghymru, yn ogystal â phobl a natur yn fyd-eang.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos y gall siarad yn ddigon huawdl am ddatblygu cynaliadwy. Nawr mae’n bryd gweithredu’r geiriau gyda Bil Datblygu Cynaliadwy cryf. Rydyn ni eisiau i John Griffiths gael ei ysbrydoli gan Rio+20 ac, ynghyd â’i gyd-aelodau o’r cabinet, iddo wrando, dysgu a chyflenwi cynaliadwyedd ym mhopeth mae’r Llywodraeth yn ei wneud. Dylai hyn olygu, er enghraifft, bod arian cyhoeddus yn cefnogi ynni adnewyddadwy glân yn hytrach nag ysgogi’r defnydd o danwyddau ffosil.”


Mae WWF yn galw am fynediad i ddiogelwch bwyd, dŵr ac ynni i bawb erbyn 2030, gyda nodau uchelgeisiol sy’n cael eu cynnal gan ystyriaethau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Gallai’r rhain gynnwys:

  • O leiaf 40% o ynni adnewyddadwy cynaliadwy yn y cymysgedd ynni byd-eang erbyn 2030, ac ynni adnewyddadwy, dibynadwy a fforddiadwy i’r rheiny sy’n byw mewn tlodi ynni.
  • Buddsoddiad a pholisïau ychwanegol ar amaethyddiaeth a bwyd cynaliadwy, wedi’u hariannu’n rhannol trwy ddileu cymorthdaliadau amaethyddol niweidiol yn raddol;
  • Ecosystemau dŵr croyw a chysylltiedig sy’n cael eu rheoli’n dda
Mae angen gweithredu ar frys i warchod y blaned a gwireddu gweledigaeth gredadwy a chynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Rhaid i gytundeb cryf ac uchelgeisiol ddod allan o Rio+20 gydag amserlenni a nodau clir.

Ychwanegodd Anne Meikle:

“Does dim disgwyl i Rio+20 gyflenwi’r datganiadau arloesol a welson ni yn ôl yn 1992, ond mae angen iddi gynhyrchu ymrwymiad gwleidyddol clir i adeiladu economïau cynaliadwy, gwyrdd”,
“Byddwn yn dibynnu ar arweinwyr byd i gytuno ar gydymrwymiad i roi’r byd ar lwybr gwahanol, tuag at ffyniant a rennir yn fyd-eang o fewn terfynau’r hyn y gall y Ddaear ei ddarparu.”
“Mae Cymru’n fach, ond gall arwain y ffordd fel cenedl gynaliadwy.”