Rhoi yn awr
Cartref » Yr hyn a wnawn » Canolfan y wasg

Gwalchwyfyn yr helyglys yn ysbrydoli enillydd cystadleuaeth

3 Gorffennaf 2012

 

Chris Kinsey

Chris Kinsey yw enillydd cystadleuaeth ysgrifennu Natur yn Ysbrydoli Natur Cymru a noddwyd gan WWF Cymru, Tŷ Newydd, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru a Theithiau Cwch Arolwg Dolffiniaid.

Dywedodd Gillian Clarke, bardd cenedlaethol Cymru ac un o’r beirniaid: ‘Mae’r cynigion gorau yn dysgu rhywbeth i mi, ac mae ganddynt naratif. Mae ysgrifennu da yn eglur, ac yn osgoi’r demtasiwn i ychwanegu gormod o ansoddeiriau.’

Bydd Gillian Clarke yn cyflwyno’r wobr ariannol o £500 i Chris Kinsey, a roddwyd gan WWF Cymru, yng Ngŵyl Lenyddiaeth Dinefwr ar 30 Mehefin. Bydd hi hefyd yn cyflwyno taleb gwerth £500 at gwrs ysgrifennu preswyl yn Nhŷ Newydd i John Harold a ddaeth yn ail gydag erthygl yn dwyn y teitl How I fell in love with the frog lady.

Meddai James Robertson, golygydd Natur Cymru, ‘Cafwyd darnau ardderchog o ysgrifennu yn sgîl y gystadleuaeth hon. Yn ffodus roedd gennym bum gwobr i’w rhannu: bu’r beirniaid yn pendroni’n hir am drefn y pump uchaf, gan fod cryfderau gan bob un. Llongyfarchiadau i’r pum enillydd, ac i bawb a gymerodd ran. Mae llenydda natur yn ffynnu mae’n amlwg.’

Dywedodd Andrew Forgrave, golygydd materion gwledig y Daily Post a’r beirniad arall, am y darn buddugol, The Hawk Moth Effect: ‘Ydych chi’n cofio’r union foment i chi syrthio mewn cariad â bywyd gwyllt? Mae Chris Kinsey’n gallu. Roedd hi’n 10 oed, a thestun ei serch oedd gwalchwyfyn yr helyglys (elephant hawkmoth). Gyda’r gallu i edrych yn ôl fel oedolyn, mae’n cofio’r rhyfeddod a deimlodd gyda’r “imago prydferth hwn” a oedd er mawr syndod iddi â dawn metamorffosis. Fel Alice in Wonderland, fe’i trawsnewidiwyd o grysalis stwmp sigâr i wyfyn oedd fel bomiwr llechwraidd yn y rhyfel a hynny’n ddechrau diddordeb oes mewn lepidoptera. A phwy all ei beio?’

Yn ôl Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru, ‘Mae WWF Cymru wrth ei fodd yn noddi cystadleuaeth ysgrifennu Natur Cymru eleni. Gobeithiwn y bydd darllen gwaith mor dalentog yn ysbrydoli eraill i ddarganfod rhyfeddodau byd natur a rhai o’r bygythiadau sy’n eu hwynebu.’

Yr enillwyr eraill yw Eloise Williams sy’n ennill taith dros nos i ddau i Ynys Sgomer (noddwyd gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru) am ei herthygl I carry your heart with me. Yn bedwerydd mae Liz Fleming-Williams sy’n ennill taith cwch arolwg dolffiniaid i ddau (noddwyd gan Dolphin Survey Boat Trips) am ei herthygl Snow on a Raven’s Wing. Yn bumed y mae Rob Collister sy’n ennill pryd o fwyd i ddau yng Nghaffi’r Tŷ Gwydr yn y Ganolfan Bywyd Gwyllt yng Nghilgerran (noddwyd gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru) am ei erthygl In my backyard.

Bydd y ddwy erthygl ddaeth i’r brig yn cael eu cyhoeddi yn rhif yr hydref Natur Cymru.


blog comments powered by Disqus