Rhoi yn awr
Cartref » Yr hyn a wnawn » Canolfan y wasg

Porritt yn pwyso ar San Steffan i ddysgu oddi wrth Gymru ar addewid ‘Llywodraeth Wyrddaf’

11 Gorffennaf 2012

Mae’r ymgyrchydd amgylcheddol adnabyddus Jonathon Porritt wedi pwyso ar wleidyddion y Deyrnas Unedig i ddysgu oddi wrth Gymru er mwyn sicrhau llywodraeth werdd, wrth i weinyddiaeth Caerdydd addo cyfraith ‘arloesol’ ar gynaliadwyedd.

Jonathon Porritt

 Mae llysgennad WWF-UK, wrth ysgrifennu ar flog y corff cadwraeth, yn canmol ymdrechion Llywodraeth Cymru ym maes cynaliadwyedd, gan dynnu sylw at lwyddiant y tâl 5c am fagiau siopa, cynllun ynni cartref Arbed a chynnydd ar ailgylchu yng Nghymru.

Mae hefyd yn cefnogi bwriad gweinyddiaeth Carwyn Jones i gyflwyno Bil Datblygu Cynaliadwy, gan ddweud ei fod yn gobeithio y bydd Cymru’n ‘arwain y Deyrnas Unedig’.

Mae Mr Porritt yn canmol y Bil, sydd â’r nod o wreiddio datblygu cynaliadwy fel ‘prif egwyddor drefniadol’ y llywodraeth a’r sector cyhoeddus yng Nghymru a pharhau â threftadaeth Comisiwn Datblygu Cynaliadwy y DU, ‘corff gwarchod gwyrdd’ y Llywodraeth, y bu’n gadeirydd arno am 9 mlynedd.

Fodd bynnag, mae hefyd yn rhybuddio mai camgymeriad fyddai esgus bod popeth yn fêl i gyd yng Nghymru, gan ddweud bod cynnydd Llywodraeth Cymru ym maes cynaliadwyedd yn dameidiog o hyd a bod perygl i’r Bil Datblygu Cynaliadwy gael ei lastwreiddio gan weision sifil nerfus, dan bwysau oddi wrth elfennau adweithiol.

Gan gyfeirio at honiad Gweinidog Amgylchedd Cymru John Griffiths y bydd y ddeddfwriaeth yn arloesol, dywed Mr Porritt fod y cynigion presennol yn wan, ond bod yna amser o hyd i wneud y gwelliannau angenrheidiol.

Dywedodd Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru:

“Mae Jonathon Porritt yn gwybod yn well na neb beth yw ystyr ‘llywodraeth werdd’ a beth mae angen i ni ei wneud i fynd i’r afael â’r heriau mawr fel y newid yn yr hinsawdd a cholli bywyd gwyllt. Dwi’n falch ei fod wedi cydnabod y potensial enfawr i Gymru arwain gweddill y Deyrnas Unedig ond yn rhannu ei bryderon bod cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfraith cynaliadwyedd yn rhy wan ar hyn o bryd. Mae angen i’r gweinidogion yng Nghaerdydd fod yn fwy uchelgeisiol er mwyn cyflawni eu haddewid o genedl gynaliadwy.”