Tywysog Cymru’n cyfarch Llysgenhadon Gwyrdd
29 Mehefin 2012
Bydd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru’n cyfarch hyrwyddwyr ifanc yr amgylchedd yn yr Uwchgynhadledd Llysgenhadon Gwyrdd WWF gyntaf erioed yn Highgrove House yn Sir Gaerloyw ar ddydd Iau 5 Gorffennaf. Bydd mwy na chwe deg o Lysgenhadon ifanc o naw ysgol wahanol yn mynd i’r digwyddiad deuddydd (4-5 Gorffennaf), ynghyd ag athrawon, cynrychiolwyr WWF a gwesteion arbennig gan gynnwys Tim a Thom o gyfres deledu Channel 4 ‘Three Hungry Boys’.
Ar yr ail ddiwrnod, bydd y Llysgenhadon yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai creadigol, gan gynnwys sesiwn tyfu bwyd a gweithdai fydd yn canolbwyntio ar gelf ac ysgrifennu, gyda’r nod o hybu gweledigaethau ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Bydd yr ysgolion hefyd yn cael mynd ar daith arbennig o gwmpas y gerddi ac yn cael profiad o weledigaeth bersonol Tywysog Cymru ei hun o amgylchedd cynaliadwy yn Highgrove.
Un o’r ysgolion fydd yn cymryd rhan yw Ysgol Iau Brynhyfryd yn Abertawe.
Dywedodd y pennaeth, Sandra Stanton:
"Mae’n bluen fawr yn het y disgyblion sy’n rhan o’r Tîm Eco yn Ysgol Iau Brynhyfryd i gael eu dewis i gynrychioli Cymru yn uwchgynhadledd gyntaf Llysgenhadon Gwyrdd. Mae’r holl ddisgyblion, dan arweiniad y Tîm Eco a’r staff ymroddedig, yn enwedig Mr Russell Bevan, wedi gweithio mor galed i wella tiroedd yr ysgol i’r plant ac i fywyd gwyllt.
“Fel Eco-ysgol â Dyfarniad Platinwm, mae ein hawl i gydnabyddiaeth yn y maes yn dod o’n hymrwymiad i ddatblygu dyfodol cynaliadwy i blant yr ardal. Mae mentrau wedi cael eu datblygu fel clybiau natur a garddio, lleihau ein gwastraff cymaint ag sy’n bosibl trwy gyfleu’r neges “Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu” yn gyson i’r holl rieni, staff a disgyblion, a thrwy leihau sbwriel.
“Fel y gallwch ddychmygu, mae’r disgyblion wedi cyffroi’n lân am gael y cyfle i rannu eu profiadau gyda phobl ifanc eraill ac maen nhw’n gobeithio dod yn ôl â syniadau newydd i wneud ein hysgol yn wyrddach byth.”
Mae’r Tywysog Charles yn hyrwyddo materion amgylcheddol ers amser maith, a llynedd cyhoeddodd y byddai’n Llywydd ar WWF-UK.
Dywedodd Prif Weithredwr WWF, David Nussbaum,
“Rydym yn ddiolchgar i’w Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru am gynnig cynnal y digwyddiad heddiw. Mae ei ddiddordeb mewn addysg a’i uchelgais i helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial llawn yr un mor fawr â’r ymroddiad mae wedi’i ddangos i’r amgylchedd dros flynyddoedd lawer. Rydym wrth ein bodd y gall fod yn rhan o’r Uwchgynhadledd Llysgenhadon Gwyrdd gyntaf hon.”
Bydd Tywysog Cymru’n croesawu rhyw saith deg o blant o naw ysgol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig - Ysgol Gynradd Eglwys Lloegr All Saints, Bishop's Stortford, Ysgol Gynradd Alphington, Caerwysg, Ysgol Gynradd Alwoodley, Leeds, Ysgol Iau Brynhyfryd, Abertawe, Ysgol Gynradd Edwalton, Nottingham, Ysgol Gynradd Eglwys Lloegr St Annes, Bishop Auckland, Ysgol Gynradd St Bartholomews, Haslemere, Ysgol Gynradd Gatholig St Marys, Caeredin ac Ysgol Gynradd Blwyf West Wittering, Chichester.
Mae WWF yn cydnabod ers amser maith pa mor bwysig yw pobl ifanc ac mae’r cynllun Llysgenhadon Gwyrdd wedi’i gynllunio’n benodol i rymuso ac ymgysylltu â phobl ifanc a’u galluogi i gymryd rhan arweiniol ac ar yr un pryd datblygu sgiliau mewn gwaith tîm a chyfathrebu. Cafodd yr ‘Ysgolion Hyrwyddo’ eu dewis yn arbennig gan WWF oherwydd eu hymrwymiad i weithredu amgylcheddol a’u parodrwydd i helpu ysgolion eraill i gymryd rhan.
blog comments powered by Disqus

Newsletter sign-up
Sign-up to get the latest WWF news delivered straight to your in-box.
Like us on Facebook
Follow us on Twitter