Rhoi yn awr
Cartref » Yr hyn a wnawn » Diogelu y byd naturiol

Diolgelu y byd naturiol

Yr ymgyrch forol yng Nghymru

Gall Cymru ymhyfrydu yn ei glannau a’i moroedd lle ceir bywyd gwyllt a chynefinoedd godidog, ac mae’n gartref i unig barc cenedlaethol arfordirol Prydain, yn Sir Benfro. Mae gennym 1,200km o arfordir sydd ymysg yr harddaf yn Ewrop ac mae ein moroedd yn amrywiol iawn ac yn cynnal cwrelau dwr oer, dolffiniaid, llamhidyddion, morfilod, morgwn a chrwbanod môr yn ogystal â’r rhywogaethau mwy traddodiadol yr ydym yn dibynnu arnynt am fwyd.

Mae miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn yn dod i Gymru oherwydd y nodwedd hynod hon, gan gyfrannu mwy na £700 miliwn i economi Cymru. Fodd bynnag, nid twristiaid yw’r unig ddefnyddwyr sy’n dibynnu ar ein moroedd – mae bywoliaeth llawer o bobl yng Nghymru’n dibynnu’n llwyr arnynt. Y ffaith yw, mae Moroedd Tiriogaethol Cymru ymysg y moroedd sy’n cael eu hecsbloetio fwyaf yn y byd, ac oherwydd hyn mae rhywogaethau a bywoliaeth pobl o dan fygythiad bellach.

Mae hyn oherwydd bod y ddeddfwriaeth a’r cynllunio yn yr amgylchedd morol wedi datblygu mewn modd ad hoc hyd yn hyn, fesul sector, heb ddim meddwl cydlynol – ’does dim un ddeddf sy’n ymdrin â’r amgylchedd morol fel un endid. Mae hyn tipyn bach fel peidio â chael un system gynllunio ganolog ar y tir – mae’n llanast llwyr! Mae’n ddryslyd, yn dameidiog ac yn anghyson. Oni fydd rheoli morol yn cael ei ddiwygio’n gadarn ac yn llwyr, mae’n anochel y bydd mwy o wrthdaro buddiannau a dirywiad yn adnoddau morol Cymru.

Ers blynyddoedd maith, ochr yn ochr â WWF-UK a llawer o sefydliadau amgylcheddol eraill, mae WWF Cymru wedi bod yn galw am fesur morol a fydd yn rhoi amddiffyniad priodol i’n moroedd a’r fioamrywiaeth ynddynt. Felly rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cydnabod yr angen hwn a’u bod yn cydweithio i sicrhau Deddf Forol gyntaf y DU.

Ar ôl i Fesur Morol y DU gael ei droi’n ddeddf yn Senedd San Steffan, bydd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i sicrhau gwell reolaeth ar ein hamgylchedd morol. Mae’n bwysig, felly, bod San Steffan a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwybod am ein hawydd am well amddiffyniad i’n moroedd a’u bod yn parhau i gymryd camau cadarnhaol i sicrhau y caiff mesur cryf ei droi’n ddeddf.