Rhoi yn awr
Cartref » Yr hyn a wnawn » Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad

Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad

John Griffiths, Anne Meikle & Alun Davies

Mae llawer o’r penderfyniadau pwysig sy’n effeithio ar bobl a bywyd gwyllt yng Nghymru bellach yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru. Mae’r penderfyniadau hyn hefyd yn effeithio ar bobl a natur mewn rhannau eraill o’r byd. Er enghraifft, mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig wrth edrych ar ôl y bywyd gwyllt morol o gwmpas ein glannau a lleihau ein hallyriadau carbon, megis trwy bolisïau ar dai ac ynni.

Oherwydd hyn, mae lobïo a helpu Llywodraeth Cymru i weithio tuag at Gymru gynaliadwy’n rhan allweddol o waith WWF Cymru. Rydym yn cefnogi dyhead y Llywodraeth am ‘Gymru Un Blaned’ – gwlad sy’n defnyddio ein cyfran deg yn unig o adnoddau’r ddaear.

Ar hyn o bryd mae ein gwaith gyda Llywodraeth Cymru ac Aelodau Cynulliad yn canolbwyntio ar:

  • Ddatblygu cynaliadwy
  • Y newid yn yr hinsawdd
  • Ynni
  • Tai
  • Polisi morol
Rydym yn hapus i helpu Llywodraeth Cymru, Aelodau Cynulliad a staff cymorth. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Hefyd, gallwch ddarllen ein
cyhoeddiadau, dogfennau briffio ac ymatebion i ymgynghoriadau.

Cyfle Cymru i arwain fel cenedl gynaliadwy

 

Senedd building before Earth Hour switch off

Eleni mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar gyfraith newydd, y ‘Bil Datblygu Cynaliadwy’. Mae WWF Cymru’n credu bod y Bil hwn yn gyfle gwych i sicrhau Cymru fwy cynaliadwy, ac mae’n ymgyrchu dros gyfraith sy’n gosod dyletswydd gryfach ar y Llywodraeth i gyflawni hyn.

Cliciwch yma i ddarllen ein hymateb i ymgynhoriad Llywodraeth Cymru ar y Bil Datblygu Cynaliadwy.

Yn 2011 cynhyrchwyd maniffesto gennym cyn etholiadau’r Cynulliad, yn nodi polisïau oedd â’r nod o sicrhau ‘Cymru Un Blaned’. Hefyd cyhoeddasom adroddiad – ‘Embedding the ‘One Planet’ Aspiration in Welsh Government 2011’ sy’n nodi sut y gall Llywodraeth Cymru gyflawni ei hymrwymiadau beiddgar i Gymru gynaliadwy. Mewn lansiad yng Nghaerdydd, gwnaethom ddwyn ynghyd nifer o arbenigwyr allweddol i edrych ar heriau’r newid yn yr hinsawdd a phrinder adnoddau, a’r cyfleoedd i sicrhau cynaliadwyedd yng Nghymru.

Cynnal Cymru Fyw

Mae Llywodraeth Cymru’n edrych ar ffordd newydd o warchod a rheoli’r amgylchedd yng Nghymru. Mae eisiau rheoleiddio a chynllunio ar lefel yr ecosystem. Bydd hyn yn golygu adolygu’r rheoliadau sy’n bodoli eisoes a gwneud diwygiadau iddynt trwy fil Amgylcheddol a thrwy Fil Cynllunio. Hefyd, mae wrthi’n sefydlu corff cyhoeddus newydd i gyflawni’r swyddogaethau allweddol hyn. Mae hefyd newydd ymgynghori ar hyn yn ‘Adnoddau Naturiol Cymru’. Mae WWF Cymru yn gweithio i ddylanwadu ar y newidiadau hyn er mwyn sicrhau y caiff ein hamgylchedd ei warchod a’i wella.
 

Footprints on the beach