Beth all Uwchgynhadledd y Ddaear ei wneud dros Gymru?
Ym mis Mehefin 2012, daeth arweinwyr byd ynghyd i ail-gadarnhau eu hymrwymiad i ddyfodol cynaliadwy i’n planed yn uwchgynhadledd Rio+20.
Gwyliwch ein fideo 5 munud isod i ddarganfod pa effaith mae uwchgynadleddau blaenorol wedi'u cael yng Nghymru neu cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad.
Eleni, mae WWF Cymru wedi bod yn ymchwilio i sut y cafodd Uwchgynadleddau blaenorol y Ddaear – Rio 1992 a Johannesburg 2002 – effaith yng Nghymru. Rydyn ni wedi bod yn siarad â phobl a fu’n cymryd rhan mewn prosiectau i wneud Cymru’n fwy cynaliadwy, o wleidyddion i bobl ifanc a gynrychiolodd Gymru ar lwyfan y byd.
Credwn bod yn rhaid i Gymru ailddarganfod y brwdfrydedd dros gynaliadwyedd a ysgogwyd gan yr uwchgynhadledd wreiddiol yn 1992. Rydym eisiau Lywodraeth Cymru i gyflwyno cyfraith gref ar ddatblygu cynaliadwy er mwyn y blaned a chenedlaethau’r dyfodol.
Edrych nôl – effaith uwchgynadleddau blaenorol
Rydym ni wedi comisiynu adroddiad newydd - 'Beth all Uwchgynhadledd y Ddaear ei wneud dros Gymru?' - a ysgrifennwyd gan Dr Alan Netherwood a Dr Andrew Flynn.
Mae’r adroddiad, a gomisiynwyd gan WWF Cymru, ac a ysgrifennwyd gan Dr Alan Netherwood a Dr Andrew Flynn, yn datgelu sut y bu i Uwchgynadleddau’r Ddaear ddylanwadu ar wleidyddion, sefydliadau a’r cyhoedd yng Nghymru, gan baratoi’r ffordd am ddyletswydd y Cynulliad i lunio Cynllun Datblygu Cynaliadwy a Bil Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn rhybuddio bod yna fwlch o hyd rhwng y broses a’r cyflawniad.
Mae’r cerrig milltir allweddol ym maes cynaliadwyedd ers uwchgynhadledd 1992 yn Rio yn cynnwys:
- 1998 – Datblygu Cynaliadwy’n cael ei wreiddio wrth sefydlu Cynulliad Cymru fel rhan o Ddeddf Llywodraeth Cymru
- 2002 – Rhodri Morgan yn mynd i Uwchgynhadledd Johannesburg, datblygiad pwysig wrth i Gymru gael ei chynrychioli ar lwyfan y byd
- 2008 – Cymru’n dod yn genedl Masnach Deg gyntaf y byd
- 2009 – Aelodau Cynulliad yn pleidleisio’n unfryd i leihau allyriadau 40 y cant erbyn 2020 o’u cymharu â llinell sylfaen 1990
- 2011 – Llywodraeth Cymru’n cyflwyno tâl o 5 ceiniog ar fagiau siopa untro
- Kirsti Davies, Canolfan y Dechnoleg Amgen, Machynlleth
- Alun Evans, Athro yn Ysgol Gyfun Llanhari yn Rhondda Cynon Taf
- Rhys Davies, Cynghorydd ar Drafnidiaeth Gynaliadwy, Canberra, Awstralia

Newsletter sign-up
Sign-up to get the latest WWF news delivered straight to your in-box.
Like us on Facebook
Follow us on Twitter