Cynhadledd gwelwdigaeth Un Blaned 2011
Bil datblygu cynaliadwy yn addo arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru
Wrth annerch cynhadledd WWF Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, John Griffiths AC, ei ymrwymiad personol i gynnig deddfwriaeth newydd i gryfhau dyletswydd Llywodraeth Cymru ar ddatblygu cynaliadwy a’i hestyn i’r sector cyhoeddus.
Meddai’r Gweinidog:
"Bydd y ddeddfwriaeth rydym yn ei chynnig yn helpu i hyrwyddo ein huchelgais i Gymru fod yn genedl gynaliadwy, un blaned, a bydd yn adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaethpwyd gan y weinyddiaeth ddiwethaf.
"Bydd angen rhoi sylw manwl i eiriad y ddeddfwriaeth, ac rydyn ni angen i bobl o bob rhan o’r agenda datblygu cynaliadwy gymryd rhan er mwyn i ni gael hyn yn iawn.
"Rydym wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â’r agenda datblygu cynaliadwy a nodwyd yn Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned a bydd y ddeddfwriaeth rydym yn ei chynnig yn bwysig eithriadol er mwyn i ni sicrhau gwell ansawdd bywyd i bobl Cymru heddiw ac yn y dyfodol."
Croesawodd Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru, gyhoeddiad y Gweinidog. Dywedodd:
“Y neges o’n cynhadledd Cymru Un Blaned oedd bod yna frys i fynd i’r afael ag agenda heriol lleihau ôl troed carbon Cymru a sicrhau bod cynaliadwyedd yn cael ei sefydlu’n gadarn ar draws pob maes yn y llywodraeth a’r sector cyhoeddus. Dangosodd y siaradwyr, oedd yn cynnwys rhai ymysg y mwyaf blaenllaw yn y byd ym meysydd gwyddoniaeth yr hinsawdd a thueddiadau mewn adnoddau byd-eang, ei bod yn hollbwysig i’r Llywodraeth gyflawni hyn yn y pum mlynedd nesaf.
“Mae WWF Cymru’n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i greu bil datblygu cynaliadwy i Gymru gan y byddai hyn yn dangos arweinyddiaeth ym maes cynaliadwyedd.”
Roedd y Gweinidog yn siarad yng nghynhadledd WWF Cymru ddoe, oedd yn dwyn ynghyd arbenigwyr blaenllaw megis y gwyddonydd hinsawdd Syr John Houghton, Will Day, Peter Roderick, a Peter Davies, Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy. Edrychodd y gynhadledd ar heriau’r newid yn yr hinsawdd a phrinder adnoddau, a’r cyfleoedd i sicrhau cynaliadwyedd yng Nghymru.
Bu WWF Cymru yn lansio ei adroddiad, ‘Embedding the ‘One Planet’ Aspiration in Welsh Government 2011’, sy’n nodi sut y gall Llywodraeth Cymru gyflawni ei hymrwymiadau beiddgar i Gymru wyrddach. Canfu’r adroddiad fod Llywodraeth Cymru wedi ‘wedi mynd ati mewn ffordd ganmoladwy’ i fynd i’r afael ag ‘olion traed’ ecolegol a charbon Cymru ond bod y pum mlynedd nesaf yn ‘hanfodol’ i’r gweinidogion newydd gyflawni’r nod hwnnw.
Meddai Anne Meikle:
“Mae angen i ni ddod â phob rhan o’r gymdeithas gyda ni wrth wneud Cymru’n genedl gynaliadwy, nid dim ond y sector cyhoeddus. Dyna pam rydyn ni’n pwyso ar y llywodraeth i ailedrych ar ei chynlluniau ar gyfer datblygu economaidd i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar gynorthwyo busnesau Cymru i gyflawni economi carbon isel, a pham mae angen i ni gael tai ynni-effeithlon ledled Cymru gyfan. Mae’r her o ran y newid yn yr hinsawdd sy’n ein hwynebu’n glir, a thrwy weithredu gallwn adeiladu dyfodol lle bydd pobl a natur yn ffynnu.”
Talodd y Gweinidog deyrnged i waith WWF Cymru hefyd. Dywedodd:
“Mae gwaith WWF Cymru wedi bod mor bwysig wrth osod yr agenda a meithrin trafodaeth ynghylch datblygu cynaliadwy. Sbardunodd gymaint o weithgarwch yr ychydig flynyddoedd diwethaf a llywiodd yr hyn a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth mewn gwirionedd.”
Nododd y llywodraeth ddiwethaf ei gweledigaeth ‘Un Blaned’, o Gymru’n defnyddio ei chyfran deg o adnoddau’r ddaear yn unig. Ar hyn o bryd, pe bai pawb yn y byd yn byw fel yr ydyn ni yng Nghymru, bydden ni angen rhyw ddwy blaned a hanner i’n cynnal.
Gwyliwch fideos byr o'r Gweinidog a Pennaeth WWF Cymru, Anne Meikle, yn egluro eu gweledigaeth nhw am Gymru Un Blaned.

Newsletter sign-up
Sign-up to get the latest WWF news delivered straight to your in-box.
Like us on Facebook
Follow us on Twitter