Rhoi yn awr
Cartref » Yr hyn a wnawn » Gweithio yng Nghymru

Gweithio yng Nghymru

WWF Cymru yw swyddfa WWF-UK yng Nghymru, ac mae WWF-UK yn ei dro’n rhan o rwydwaith amgylcheddol mwyaf y byd. Mae ein swyddfa ym Mae Caerdydd, ac rydym yn dîm bach o 7 aelod o staff. Rydym yn rhannu ein swyddfa gyda staff WWF-UK sy’n gweithio ar brosiect morol PISCES.

Boat to Flatholm

 Nod ein gwaith yng Nghymru yw chwarae ein rhan wrth fynd i’r afael â’r problemau mwyaf i natur a phobl dros y byd i gyd. Mae gennym fwy nag 20,000 o gefnogwyr yng Nghymru sy’n ein helpu i ymgyrchu a chodi arian.

Yn aml rydyn ni’n mynd i’r afael â bygythiadau mawr byd-eang fel y newid yn yr hinsawdd, neu warchod peth o’r bywyd gwyllt sydd o dan y bygythiad mwyaf difrifol yn Affrica, Asia neu American Ladin. Mae gan WWF brosiectau maes effeithiol yn y gwledydd hynny a llawer mwy, a gaiff eu cefnogi gan waith polisi rhyngwladol. Fodd bynnag, er mwyn mynd i’r afael â’r problemau hyn yn effeithiol, yn aml mae angen i ni wneud newidiadau yma yng Nghymru.

St Georges Market, Belfast

 Mae penderfyniadau ynglŷn â pha fwyd rydyn ni’n ei fwyta, sut rydyn ni’n teithio a sut rydyn ni’n gwresogi ein cartrefi’n effeithio ar bobl a bywyd gwyllt ledled y byd.

Oherwydd hyn, mae WWF Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad, sefydliadau eraill a’r cyhoedd i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu polisïau, lobïo, cyfathrebu ac ymgyrchoedd i sicrhau bod yr amgylchedd ar frig agenda gwleidyddion a’r cyhoedd.

Y meysydd gwaith presennol

 Ar hyn o bryd, mae’r materion allweddol yn cynnwys:

  • Hyrwyddo ynni adnewyddadwy a chartrefi wedi’u hinswleiddio’n well
  • Gwarchod bywyd gwyllt morol
  • Mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd trwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
  • Lobïo Llywodraeth Cymru i gyflwyno Bil cryf ar Ddatblygu Cynaliadwy
Mae’r prosiectau eraill yn cynnwys ein cefnogaeth flynyddol i Awr Ddaear WWF, codi arian a’n cefnogaeth i fenter Maint Cymru i helpu i warchod coedwigoedd trofannol.

Logo Cyswllt Amgylchedd Cymru

Wales Environment Link logo

Cyswllt Amgylchedd Cymru

Mae WWF Cymru yn aelod o Gyswllt Amgylchedd Cymru (y Cyswllt) - rhwydwaith gweithredol o Gyrff Anllywodraethol amgylcheddol yng Nghymru a'r ddolen swyddogol rhwng y sector CAa a Llywodraeth Cymru