Mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd
Gallai cynnydd parhaus allyriadau nwyon ty gwydr arwain at ganlyniadau trychinebus i bobl a natur. Mae mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn ganolog o ran cyrraedd dau nod sylfaenol WWF, sef diogelu bioamrywiaeth a lleihau ôl troed ecolegol y ddynoliaeth.
Oni fyddwn yn atal tymereddau byd-eang cyfartalog rhag codi mwy na 2°C uwch na’r lefel a gofnodwyd yn y cyfnod cynddiwydiannol, rydym yn wynebu risg uchel o newidiadau difrifol ac anwrthdroadwy i systemau naturiol y blaned. Bydd canlyniadau newidiadau i batrymau’r tywydd, moroedd yn cynhesu ac iâ’n ymdoddi’n drychinebus i bobl a natur.
Beth yw’r broblem?
Mae mwy nag 1 o bob 3 o bobl a holwyd yng Nghymru yn credu y bydd newid yn yr hinsawdd yn achosi problemau yn ystod eu hoes ac mae 70% yn ei ystyried yn fygythiad go iawn.
Nid oes amheuaeth mwyach mai prif achos newid yn yr hinsawdd yw llosgi tanwyddau ffosil, sy’n rhyddhau carbon deuocsid (CO2) a nwyon ‘t? gwydr’ eraill i’r atmosffer. Heb weithredu ar frys, bydd newid yn yr hinsawdd yn diffeithio bywyd ar y Ddaear.
Bydd cannoedd o filiynau o bobl, yn arbennig y tlotaf a’r mwyaf agored i niwed yn y byd, yn wynebu risg difrifol o sychdwr, llifogydd, newyn a chlefydau. Erbyn canol y ganrif gallai hyd at draean o rywogaethau tir wynebu difodiant. Mae’r difrod wedi dechrau eisoes. Nid oes rhagor o amser i’w golli.
Yng Nghymru a Lloegr, mae 5 miliwn o bobl eisoes yn byw mewn ardaloedd lle mae risg llifogydd ac mae risg i ryw 12 y cant o’r tir amaeth a chwarter y safleoedd diwydiannol. Os na wnawn ni unrhyw beth i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, mae mwy o risg y canlynol i Gymru:
• stormydd mwy mynych
• codiad yn lefel y môr
• mwy o lawiad a mwy o dd?r yn llifo i aberoedd a’r môr
• gaeafau gwlypach (cynnydd o hyd at 20% erbyn y 2080au)
• hafau sychach (hyd at 40% yn sychach erbyn y 2080au)
• mwy o debygrwydd sychdwr a phrinder d?r
• colli gwlybaniaeth pridd, yn enwedig yn yr haf
• Gallai effeithiau cyfun codiadau mwy yn lefel y môr ac ymchwyddiadau storm mwy gynyddu risg llifogydd yn 2080 i hyd at 30 gwaith yn fwy na lefelau heddiw.

Newsletter sign-up
Sign-up to get the latest WWF news delivered straight to your in-box.
Like us on Facebook
Follow us on Twitter