Rhoi yn awr

Yr hyn yr ydym yn galw am

Newid yn yr hinsawdd yw un o’r heriau amgylcheddol mwyaf difrifol i wynebu ein planed. Mae angen gweithredu ar frys os ydym i osgoi’r bygythiad mae’n ei greu i lawer o rywogaethau a chynefinoedd, ac i fywoliaeth pobl. Mae’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn cytuno bod yn rhaid i godiad cyfartalog y tymheredd byd-eang aros yn llai na 2°C uwch na lefelau cynddiwydiannol.

Yn WWF Cymru, rydym yn canolbwyntio ar y canlynol:
Sicrhau bod Cymru’n gwneud cyfraniad teg tuag at yr ymdrech ryngwladol i gynhesu llai na 2ºC trwy gytundeb Cymru’n Un i sicrhau toriad o 3% ar ein hallyriadau carbon deuocsid bob blwyddyn. Mae WWF yn cydweithio gyda Chomisiwn Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynghori ar y strategaeth orau i sicrhau’r toriadau hyn gan ddechrau yn 2011.

Sicrhau bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n chwarae rhan flaenllaw ar lwyfan y DU trwy roi cefnogaeth i bolisïau effeithiol ar lefel y DU i sicrhau’r toriadau gofynnol sef 80% (o leiaf) o ran allyriadau.

Hyrwyddo effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy mewn datblygiadau tai newydd;

Datblygu a chofnodi dealltwriaeth fwy o’r ystod effeithiau newid yn yr hinsawdd gyda chymorth ein gwaith ar y rhaglen tystion hinsawdd;

Datblygu polisi ymaddasu i Gymru;

Ymgyrchu i hyrwyddo cefnogaeth i ffermydd gwynt ar y tir ac ar y môr yng Nghymru. Mae ynni’r gwynt yn ffynhonnell ynni adnewyddadwy allweddol i Gymru. Mae’n gallu cystadlu â thechnolegau cynhyrchu confensiynol a gall wneud cyfraniad sylweddol i gyfuniad ffynonellau ynni’r DU ac i’r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Rydym yn cydweithio ag amrywiaeth o bartneriaid gan gynnwys cymunedau lleol, llywodraethau, y gymdeithas sifil, y cyfryngau, y byd academaidd ac asiantaethau rhyngwladol eraill, yn enwedig ar y berthynas rhwng lles amgylcheddol a dileu tlodi.